|
Yn gynharach yr wythnos hon, cynhaliodd Tîm Cymdogaeth Fairwater, mewn partneriaeth â Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ymgyrch ddiogelwch ffyrdd ar y cyd o'r enw 'Operation Atal' ar Heol Isaf, Radur. Roedd yr ymgyrch yn cynnwys nodi troseddau sy'n ymwneud â'r ffyrdd, gan gynnwys goryrru, defnyddio ffonau symudol wrth yrru, peidio â gwisgo gwregys diogelwch ac unrhyw droseddau eraill yn ymwneud â'r ffyrdd.
Yn ystod yr ymgyrch pedair awr; cafodd 28 o yrwyr fideo addysgol am yrru'n rhy gyflym ar ffordd â therfyn cyflymder o 20mya cafodd 12 o bobl fideo addysgol am beidio â gwisgo gwregys diogelwch, neu am ddefnyddio gwregys diogelwch neu sedd car yn anghywir cafodd un cerbyd ei atafaelu oherwydd diffyg yswiriant, a chyflwynwyd Adroddiadau Troseddau Traffig (tocynnau) i dri o bobl am ddefnyddio ffôn symudol, gyrru heb yswiriant a pheidio â gwisgo gwregys diogelwch.
Rydym yn bwriadu cynnal rhagor o ymgyrchoedd yn y dyfodol. |